Neidio i'r prif gynnwy

Tim Rhys-Evans MBEFfurfiodd Tim Rhys-Evans gôr o fechgyn ifanc, Only Boys Aloud ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mlaenau Gwent yn 2010. Lansiodd y côr o tua 150 o fechgyn 14-19 oed gyda chymorth aelodau Only Men Aloud, a gytunodd i fod yn fentoriaid.

Mae Tim wedi rhoi cyfle i’r corau berfformio ar sawl llwyfan mawreddog, yn lleol ac yn fyd-eang. Ymysg yr uchafbwyntiau i’w gôr plant, Only Kids Aloud, mae perfformio yn Theatr Mariinsky yn St Petersburg ac yn Seremoni Agoriadol Gemau Olympaidd Llundain 2012.

Mae ganddo weledigaeth ynghylch creu cyfleoedd i bobl ifanc yng Nghymru drwy Only Boys ac Only Kids Aloud, ac o ganlyniad datblygwyd hyder, hunan barch a balchder pobl ifanc drwy gyfrwng cerddoriaeth a chân. Mae Tim yn hyrwyddo delwedd gadarnhaol o’r bechgyn, y Cymoedd a diwylliant Cymru. 

Mae’r dynion ifanc sydd wedi bod yn ‘Academi Only Boys Aloud’ yng Ngholeg Iwerydd wedi gwella’u sgiliau cerddorol a’u sgiliau canu yn aruthrol. Mae sawl un o’r grŵp gwreiddiol o bobl ifanc bellach wedi symud ymlaen ac wedi cofrestru mewn colegau a phrifysgolion cerddoriaeth a theatr er mwyn symud ymlaen gyda’u huchelgais proffesiynol o ganlyniad i’w gwaith gyda’r prosiect Only Boys Aloud.