Tîm Rhoi Organau Cymru
Enwebiad ar gyfer gwobr Chwaraeon
Mae Tîm Trawsblaniadau Cymru yn dîm chwaraeon o athletwyr sydd wedi derbyn neu wedi rhoi meinwe neu organ. Maen nhw'n cynrychioli Cymru gyfan ac maen nhw'n cystadlu mewn mwy na 23 digwyddiad chwaraeon gwahanol yng Ngemau Trawsblaniadau Prydain.
Mae'r tîm yn cynnwys pobl sydd wedi cael trawsblaniad aren, afu, pancreas neu fêr esgyrn; pobl sydd wedi bod yn rhoddwr byw, a rhai sy'n derbyn dialysis ac yn aros am drawsblaniad arall. Mae Tîm Trawsblaniadau Cymru wedi rhoi cyfle hanfodol i helpu pobl i fod yn gorfforol weithgar ar ôl iddyn nhw gael trawsblaniad, ac ar gyfer rhai mae wedi cynnig y cyfle i fod yn wirioneddol gystadleuol mewn cystadleuaeth chwaraeon proffil uchel.
Yn 2019, gwnaeth Tîm Trawsblaniadau Cymru gystadlu yng Ngemau Trawsblaniadau Prydain, a noddwyd gan Westfield Health, yng Nghasnewydd, ar ôl i nifer y tîm gynyddu o dri aelod i 48 aelod o fewn pedair blynedd.
Mae rheolwyr y tîm yn ceisio sicrhau bod y tîm mor gynhwysol ag y bo modd, o ran mathau o drawsblaniadau. Mae tri rheolwr wedi sefydlu timau pêl-droed i annog cleifion i gadw'n heini a rhoi cymorth drwy rannu profiad.
Gwnaeth tri athletwr iau gystadlu dros dîm Cymru yn y gemau, gyda'r ifancaf yn ennill tair medal. Roedd perfformiad Tîm Trawsblaniadau Cymru yn wych - enillon nhw gyfanswm o 35 medal, yn ogystal throffi. Yn ogystal, aeth aelodau o'r tîm yn eu blaenau i gystadlu dros Dîm GB yng Ngemau Trawsblaniadau'r Byd, lle parhaodd eu llwyddiannau.
Mae’r tîm yn meddwl am fwy nag ennill medalau: mae creu cyfleoedd a helpu pobl i deimlo fel pe baen nhw'n rhan o'r tîm yn bwysig hefyd.