Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Gweithwyr hanfodol (allweddol)

Mae’r Tîm Nyrsio Anadlu yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant wedi cael ei ychwanegu at restr fer ar gyfer categori Gweithwyr Hanfodol ar gyfer Gwobrau Dewi Sant am y cymorth a roddwyd i deuluoedd ag anwyliaid yn yr ysbyty gyda Covid, yn ogystal â’r arweiniad a’r sicrwydd a gynigiwyd i staff yn Uned Meddygol Acíwt yr ysbyty wrth ddelio â sefyllfaoedd anodd iawn.

Ar ddechrau’r pandemig, chwaraeodd y tîm rôl bwysig, gan gefnogi staff y ward a doctoriaid ond daeth y rôl yn un ymarferol yn gyflym iawn o ran nyrsio’r cleifion mwyaf sâl ar y ward yr oedd angen cymorth anadlu anfewnwthiol ac ocsigen llif uchel arnynt.

Cefnogwyd cleifion a oedd yn cael eu trosglwyddo i’r Uned Therapi Dwys ac arhoswyd gyda nhw tan eu bod wedi’u rhoi o dan anesthetig a gwnaethant weithredu hefyd fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer teuluoedd cleifion gan nad oeddent yn gallu ymweld â’u hanwyliaid yn yr ysbyty. Mae’r tîm hefyd wedi bod wrth law i gyfeirio a chefnogi staff nyrsio sydd wedi gorfod gwneud penderfyniadau heriol ac emosiynol iawn ynghylch gofal unigol i gleifion.

Ar yr un pryd, roeddent yn parhau i gynnig cymorth i’w cleifion eu hunain yr oedd angen cymorth arnynt i reoli clefyd cronig.

Mae’r tîm wedi gweithio oriau eithriadol o hir er mwyn cynnig hyfforddiant ac arweiniad i bob aelod o staff ar wardiau Covid yr ysbyty er mwyn sicrhau eu bod yn teimlo’n hyderus ac yn cael cefnogaeth lawn wrth nyrsio cleifion ag achosion anadlu cymhleth gan wneud penderfyniadau heriol ac emosiynol iawn ynghylch gofal unigol cleifion.