Tîm CARiAD
Enwebiad ar gyfer gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae pobl sy'n ddifrifol wael yn aml eisiau treulio eu dyddiau olaf o fywyd gartref yn derbyn gofal gan deulu neu ffrindiau.
Gellir dysgu teulu neu ffrindiau, os ydynt yn fodlon, sut i adnabod symptomau a rhoi meddyginiaeth 'dim nodwydd' pan fydd eu hanwyliaid sy'n marw yn rhy wan i'w lyncu.
Mae hyn yn golygu nad oes rhaid aros i feddyg neu nyrs gyrraedd i roi’r feddyginiaeth. Mae'r arfer hwn wedi cael ei ddefnyddio'n llwyddiannus yn Awstralia ers blynyddoedd lawer. Tîm o ymchwilwyr a chlinigwyr o ogledd Cymru fu’n arwain gwaith ymchwil y DU yn y maes hwn. Datblygon nhw bolisi Cymru-gyfan gan baratoi’r pecyn CARiAD (CARer ADministration) ar gyfer defnydd clinigol yng Ngogledd Cymru yn 2020. Mae eu gwaith yn helpu i ledaenu'r arfer hwn ledled y DU.
Ac mae’r canlyniadau yn ardderchog: mae symptomau pobl sy'n marw yn cael eu trin yn llawer cyflymach, a’r amser aros aros i lawr o 105 i 10 munud. Mae teulu a ffrindiau yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u grymuso'n dda: maent yn gwerthfawrogi'r cyfle i gefnogi dymuniad rhywun annwyl i fod gartref fel hyn.
Mae'r dull hwn sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn ymateb i flaenoriaethau ac anghenion newidiol o fewn cymdeithas, gan gefnogi dewis ar ddiwedd oes. Enillydd Gwobr Arloesi mewn Ymarfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2023.