Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Pencampwr yr Amgylchedd

Mae Tîm Adfer Mawndiroedd Llyn Efyrnwy yn cyflawni un o brosiectau adfer mawndir mwyaf Cymru. Mae’r prosiect yn bwysig iawn ar gyfer y cyflenwad dŵr ac adfer cynefinoedd Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae'r tîm amrywiol yn cynnwys staff lleol o RSPB Cymru, Hafren Dyfrdwy, Owen Environmental ac RG Evans, gyda rheolwyr prosiect, syrfewyr, ecolegwyr a chontractwyr amaethyddol, pob un yn fedrus ac yn unedig yn eu hymrwymiad i adfer yr amgylchedd. Mae eu gwaith yn mynd i'r afael â’r heriau o golli bioamrywiaeth, gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd a rheoli dalgylchoedd dŵr. Y nod yw adfer dros 1,500 hectar o gors (mawndir yr ucheldir) yn ardal Llyn Efyrnwy. Drwy adfer mawndiroedd sydd wedi dirywio, mae’r tîm yn helpu i storio carbon ac yn gwella cynefinoedd rhywogaethau adar prin, fel y Bod Tinwen (Hen Harrier) a'r Cwtiad Aur.

Ar ben hynny, mae eu gwaith yn gwella ansawdd dŵr trwy hidlo’r dŵr yn naturiol a lleihau gwaddodion. Mantais arall yw lliniaru ac atal difrod llifogydd, gan fod mewndir yn gallu cipio dŵr glaw a’i ryddhau yn raddol.

Yn y tymor hir, nod y tîm yw cyflawni ecosystemau mawndir cynaliadwy, lle mae'r trwythiad dŵr yn aros yn agos i’r wyneb trwy gydol y flwyddyn, a'r cynefinoedd yn cael eu hadfer yn llawn, gan greu tirwedd sy'n dal carbon, yn cefnogi gwell bioamrywiaeth, ac yn helpu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd.

Mae llwyddiannau Tîm Adfer Mawndiroedd Llyn Efyrnwy yn seiliedig ar eu hymrwymiad i ragoriaeth wyddonol a rheolaeth sy’n addasu.

Trwy fonitro llystyfiant, hydroleg a bioamrywiaeth, maent yn sicrhau effeithiolrwydd y prosiect ac yn darparu data gwerthfawr sy'n ategu pwysigrwydd mawndir ar gyfer dal carbon a chryfhau’r ecoleg. Mae'r dull monitro cadarn hwn yn hanfodol ar gyfer cynnal buddion ecolegol gwaith y tîm am ddegawdau i ddod.