Tîm Achub Mynydd Llanberis
Enillydd gwobr gwirfoddoli 2025
Mae Tîm Achub Mynydd Llanberis yn sefydliad achub gwirfoddol, a sefydlwyd yn 1965 i wasanaethu ar lethrau’r Wyddfa a mynyddoedd eraill Eryri. Mae'r tîm yn darparu cymorth brys i'r rhai sy'n cael eu hunain mewn perygl wrth heicio, dringo neu fynydda yn yr ardal.
Mae cyfrifoldebau’r tîm yn amrywiol; maent yn ymateb i ystod eang o sefyllfaoedd, e.e. cerddwyr sydd ar goll neu wedi anafu, dringwyr mewn trafferthion, a chwilio ac achub arbenigol yn y dŵr yn ogystal ag ar y mynydd. Mae gwirfoddolwyr medrus a dewr iawn y tîm yn cael hyfforddiant helaeth.
Maen nhw ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn, waeth beth fo'r tywydd. Maent yn meddu ar amrywiaeth o offer arbenigol, gan gynnwys cerbydau achub mynydd, offer meddygol, a thechnoleg cyfathrebu, i allu achub pobl yn effeithlon ac effeithiol. Heb unrhyw arian gan y llywodraeth, mae Tîm Achub Mynydd Llanberis yn dibynnu ar roddion, digwyddiadau codi arian, ac ymroddiad ei aelodau i gynnal gweithrediadau a thalu am offer a hyfforddiant.
Mae’r Tîm Achub yn chwarae rhan hanfodol wrth ymateb i argyfyngau awyr agored, gan ddarparu gwasanaethau achub cyflym a phroffesiynol. Nhw yw tîm achub mynydd prysuraf y DU. Yn 2023 fe wnaethant ymateb i 308 o alwadau a 326 o alwadau yn 2024. Mae eu hymrwymiad i ddiogelwch a lles y cyhoedd yn dyst i gryfder y gwirfoddoli a’r gymuned yn yr ardal. Gelid dweud mai Tîm Achub Mynydd Llanberis yw’r pedwerydd gwasanaeth brys.