Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Diwylliant

Mae Tamara Harvey a Liam Evans-Ford yn arwain theatr gynhyrchu fwyaf Cymru. Yn y ddwy flynedd ddiwethaf mae Theatr Clwyd wedi creu 23 o gynyrchiadau sydd wedi eu cymeradwyo gan y beirniaid, ac mae dros 700,000 o bobl wedi gweld sioeau sydd wedi'u cynhyrchu a'u cyflwyno gan y sefydliad llwyddiannus hwn. 

Dechreuodd Tamara fel Cyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd yn 2015, wedi gweithio fel cyfarwyddwr llawrydd yng Nghymru ac yn rhyngwladol ac yn Gyfarwyddwr Cyswllt gyda Theatr y Bush. Wedi'i henwi gan The Stage fel un o'r bobl mwyaf dylanwadol ym myd theatr y DU, mae Tamara yn arwain y diwydiant ac mae ei gwaith wedi codi proffil Theatr Clwyd ledled y wlad, a'i chefnogaeth amlwg i rieni sy'n gweithio yn y maes celfyddydol wedi creu trafodaeth genedlaethol ac wedi newid arferion gweithio oedd wedi hen sefydlu. Yn ymddiriedolwr Sefydliad Peggy Ramsay a Gŵyl Ddrama Genedlaethol y Myfyrwyr, mae Tamara o blaid defnyddio'r celfyddydau i gysylltu cymunedau mewn ffordd greadigol a'u grymuso.

Ymunodd Liam â Theatr Clwyd yn 2016 wedi bod yn amlwg yn y broses o ailddatblygu Theatr y Royal yn Efrog, gan arwain ar gynllunio a pharhad busnes. Yn gynhyrchydd a chyfarwyddwr creadigol amlwg, cynhyrchodd Liam nifer o gynyrchiadau cymunedol mawr gan gynnwys York Mystery Plays a Blood & Chocolate. Yn Reolwr Cyffredinol Theatrau Sheffield, roedd yn Gyfarwyddwr Artistig Cynyrchiadau Sprite ac yn gyd-sylfaenydd The Factory Theatre. Fel ymddiriedolwr cwmni theatr blant Tutti Frutti, asiantaeth ddatblygu Cymru ar gyfer theatrau a chanolfannau celf Creu Cymru ac ar Bwyllgor Llywio Iechyd a Lles Gogledd Cymru - mae ar hyn o bryd yn llywio gwaith y theatr gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae llwyddiannau niferus Theatr Clwyd dros y 24 mis diwethaf yn cynnwys creu cwmnïau cymunedol newydd - Cwmni 25 (ar gyfer pobl ifanc 17-25 mlwydd oed), Cwmni 55 (ar gyfer y rhai dros 55) a chwmni Cymraeg ifanc - Arts from the Armchair, prosiect llwyddiannus gyda'r rhai sy'n colli eu cof yn ifanc, Justice in a Day yn edrych ar gyfiawnder troseddol gyda phobl ifanc, a Bright Sparks sy'n annog plant i ymddiddori mewn gwyddoniaeth, peirianneg a mathemateg mewn ffordd greadigol. Mae'r theatr hefyd wedi ennill 3 o Wobrau Theatr Cymru, 1 Wobr Theatr y DU a bu i dros 700,000 o bobl weld eu gwaith dros y ddwy flynedd ddiwethaf.