Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Dewrder

Mae Tammy Ryan o Benarth yn barafeddyg Cerbyd Ymateb Cyflym, wedi ei lleoli yn y Barri, Bro Morgannwg. Enwebwyd hi am ei rhan yn achub bywyd gwraig oedrannus ym Mai 2013.

Roedd Tammy yn agosáu at ddiwedd ei shifft pan ddaeth alwad hwyr am iddi fynd i helpu gwraig oedrannus oedd wedi syrthio yn ei chartref yn Ninas Powys. Nid oedd yr alwad wedi ei nodi’n flaenoriaeth uchel felly gwnaeth Tammy y daith fer o’r Barri yn dawel, ond wrth iddi gyrraedd y tŷ sylweddolodd fod pethau’n llawer mwy difrifol

Agorodd Tammy ddrws y tŷ ac aroglodd hi arogl o fwg ysgafn. Wrth iddi agor y drws ffrynt, roedd hi’n gallu gweld cymylau o fwg yn codi tuag at y nenfwd. Aeth hi lawr ar ei dwylo a’i phengliniau a gweiddi enw’r wraig. Cafodd hi ymateb a dilynodd Tammy ei llais a dod o hyd iddi ar lawr y gegin. Gallai Tammy weld ei bod hi wedi anafu ei choes ac nid oedd yn gallu sefyll. Gallai Tammy hefyd weld achos y tân, sef sosban o oedd wedi mynd ar dân ar y popty. Llwyddodd i gael ei breichiau o dan yr hen fenyw a hanner ei chodi a’i llusgo allan ar y feranda.

Eisteddodd Tammy’r wraig ar gadair, gwirio yn gyflym ei bod hi’n iawn a danfon am ambiwlans ac injan dân. Er mwyn arbed y tŷ, aeth Tammy yn ôl i mewn i’r tŷ, tarodd y sosban oddi ar y ffwrn gyda ffon gerdded, arllwys dŵr drosto, agorodd y drws cefn a dychwelodd at ei chlaf i aros am yr ambiwlans a’r frigâd dân.