Neidio i'r prif gynnwy

Tîm yr Uned Genau a'r Wyneb AbertaweMae’r gwaith arloesol sy’n cael ei wneud gan y tîm yn Uned y Genau a’r Wyneb yn Ysbyty Treforys wedi arwain datblygiadau chwyldroadol mewn llawdriniaethau a phrostheteg. 

O ganlyniad i waith ymchwil prosthetydd ymgynghorol y genau a’r wyneb, Peter Evans gyda chanolfannau arbenigedd lleol a rhyngwladol, bellach mae modd creu prothsesis wyneb realistig fel rheol ar ôl i’r claf ymweld unwaith, yn hytrach na 3-4 ymweliad. 

Mae’r Uned yn rhan o’r rhaglen ymchwil fwyaf yn y byd i’r wefus a thaflod hollt, wedi’i ariannu gan yr Healing Foundation; maent wedi datblygu sawl techneg newydd sy’n ei gwneud yn bosibl ailadeiladu wynebau dioddefwyr yn gywir ar ôl trawma ac afiechyd; ac wedi datblygu offer newydd i wella cywirdeb wrth osod mewnblaniad i ddal prosthesis yn yr wyneb. 

Mae dros 2,000 o gleifion Cymru’n elwa ar eu gwaith bob blwyddyn, ond mae hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar gynulleidfa fyd-eang llawer ehangach. Yn ogystal â’r llwyth gwaith clinigol prysur iawn, llwyddwyd i gynhyrchu dros 60 o erthyglau ymchwil, darparwyd nifer o gyflwyniadau mewn cynadleddau rhyngwladol a datblygwyd cyrsiau hyfforddi. Bu hyn yn bwysig iawn wrth wneud Cymru’n ganolfan arbenigedd byd-eang ym maes llawdriniaethau a phrothseteg yr wyneb a’r genau, ac yn rhanbarth pwysig ar gyfer datblygu arfer da. 

Mewn cydnabyddiaeth o’i gyfraniad ardderchog i lawdriniaethau, enillodd Adrian Sugar (Llawfeddyg Ymgynghorol y Genau a’r Wyneb yn Ysbyty Treforys) wobr fawreddog y Down Surgery Prize yn 2012.