Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Arloesedd a Thechnoleg

Mae Tîm Digidol y Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghymru wedi’u dewis yn Deilyngwyr yn y categori Arloesedd a Thechnoleg am eu dull arloesol o adeiladu gwefan newydd a oedd yn gwbl seiliedig ar ddata.

Fe’u hysbrydolwyd gan brototeip a gafodd ei adeiladu ar eu rhan gan y Sefydliad Data Agored i ddangos pŵer data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol petai’n cael eu darparu mewn diwyg haws eu defnyddio. Crëwyd system gyhoeddi ystadegol bwrpasol a allai drawsnewid sawl ffynhonnell data yn Nodiant Gwrthrych Sgript Java ac wedyn darparu hynny drwy gyfres o Ryngwynebau Rhaglennu Cymwysiadau i ryngwyneb defnyddiwr y wefan.

Mae hyn yn galluogi siartiau rhyngweithiol a gwaith creu delweddau gyda data diweddar iawn y gall defnyddwyr eu teilwra a hefyd eu bwydo drwy’r wefan gyfan i ddiweddaru gwybodaeth gyda chyn lleied â phosibl o ymyrraeth.

Caiff popeth a gaiff ei gyhoeddi ar y safle, gan gynnwys dadansoddiadau a sylwebaeth, yn ogystal â data, ei gyhoeddi ar ffurf y gall peiriant ei ddarllen. Mae hyn yn caniatáu i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ddarparu rhyngwyneb deniadol, hygyrch sy’n gweddu i’r cwsmer a hefyd yn ei wneud yn haws i eraill ddatblygu eu Rhyngwynebau Rhaglennu.