SportCheer Wales
Enwebiad ar gyfer gwobr Chwaraeon
Mae Tîm Cymru ar gyfer Dawnsio Cheer a Addaswyd i Bob Gallu yn dîm o athletwyr anabl ac abl sy'n gweithio gyda'i gilydd i gystadlu ym Mhencampwriaeth Dawnsio Cheer y Byd. Nod y tîm yw cynyddu nifer y bobl anabl sy'n cymryd rhan mewn cystadlaethau codwyr hwyl. Gan gynnwys styntio a chodwm, mae'r trefnau dwys iawn yn gofyn am addasiadau i wneud iawn am anabledd, ond sy’n bodloni gofynion trefn cystadleuol. Yn ogystal, mae Tîm Pompomau Dull Rhydd Tîm Cymru a Addaswyd i Bob Gallu yn canolbwyntio ar elfennau o ddawnsio a fydd yn galluogi rhagor o athletwyr anabl i gymryd rhan.
Dim ond ers mis Hydref 2018 mae'r tîm wedi bod gyda'i gilydd, ond mae Tîm Cymru ar gyfer Dawnsio Cheer a Addaswyd i Bob Gallu wedi gweithio'n galed i wireddu eu breuddwydion. Mae 40% o'r tîm yn athletwyr anabl. Mae'r tîm yn cynnwys athletwyr sy'n gymwys i gymryd rhan ym Mhencampwriaeth y Byd, a oedd yn gweithio gyda phobl nad oedden erioed wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau codwyr hwyr, i gyflwyno Tîm cyntaf Cymru ar gyfer Dawnsio Cheer a Addaswyd i Bob Gallu (Paracheer).
Gydag athletwyr a hyfforddwyr yn dod o ledled Cymru, cafodd y Tîm cyntaf ar gyfer Galluoedd Addasol ei sefydlu. A nhwthau'n ymarfer gyda'i gilydd dim ond unwaith y mis, roedd rhaid iddyn nhw weithio'n galed iawn i gyflawni eu nod i gystadlu ym Mhencampwriaeth y Byd Undeb Rhyngwladol Cheer.
Ym mis Ebrill 2019 mynychodd Tîm Cymru Bencampwriaeth y Byd yn Florida am y tro cyntaf, ac enillon nhw fedal arian.
Roedd y tîm wrth eu boddau'n cael eu cefnogi a'u llongyfarch gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, a chawson nhw'r pleser o ymweld â'r Senedd i gwrdd ag ef yn yr haf.