Siop Griffiths
Gwobr Ysbryd y gymuned enillydd 2022
Mae Siop Griffiths yn fenter gymunedol ym Mhen-y-groes, Dyffryn Nantlle yng Ngwynedd sydd wedi helpu i greu atebion lleol i'r heriau sy'n wynebu Dyffryn Nantlle. Mae’n rhoi cyfleoedd i bobl ifanc aros a ffynnu yn eu cymuned.
Siop Griffiths yw un o'r adeiladau hynaf ym Mhen-y-groes. Agorodd fel tafarn y Stag’s Head yn 1828 cyn dod yn werthwr nwyddau haearn a oedd yn cael ei redeg gan y teulu Griffiths am 85 mlynedd. Yn 2016 prynwyd y siop gyda £53,000 a gafodd ei godi gan y gymuned. Sefydlwyd Siop Griffiths Cyf, Cymdeithas Budd Cymunedol, i sicrhau bod yr adeilad yn aros yn nwylo'r gymuned. Codwyd £900,000 i adnewyddu 3 adeilad, ac agor caffi, llety gwyliau, a chanolfan ddigidol sy'n cynnig hyfforddiant i blant a phobl ifanc. Mae'r Ganolfan Ddigidol yn darparu gweithdai ffilm, codio, podledu a chelf ddigidol i blant a phobl ifanc. Mae hefyd yn cynnal Caffi Trwsio/Gofod Gwneud sy'n darparu lle a gweithgareddau i bobl sy'n defnyddio sgiliau traddodiadol a newydd i drwsio pethau. Mae’r cyfan o dan yr un to, sef Yr Orsaf.
Maent wedi helpu i gefnogi cymuned Pen-y-groes yn wyneb heriau economaidd, gan ymateb i anghenion y gymuned yn ystod pandemig COVID-19. Mae prosiect trafnidiaeth gymunedol cynaliadwy i gefnogi trigolion yr ardal gyda 3 cherbyd trydan at ddefnydd y gymuned. Mae’r prosiect bwyd a lles yn datblygu 3 prif elfen at ddefnydd y gymuned - rhandiroedd; Gardd Wyllt Pen-y-groes, a Phantri Cymunedol, sy'n defnyddio bwyd dros ben o'r siop Co-op leol, archfarchnadoedd eraill a rhoddwyr eraill.