Siân Phillips CBE
Gwobr Diwylliant enillydd 2015
Mae Siân Phillips yn actores enwog o Waun-Cae-Gurwen yn Ne Orllewin Cymru. Graddiodd o Brifysgol Caerdydd yn 1955, ar ôl gweithio fel darllenydd newyddion a chyhoeddwr y BBC tra'n astudio. Yna, enillodd ysgoloriaeth i RADA lle derbyniodd hi’r Fedal Aur Bancroft fawreddog.
Ar ôl RADA, ymddangosodd mewn rolau di-ri, gan gynnwys ffilmiau, cynyrchiadau theatr y West End a chynyrchiadau’r Royal Shakespeare Company. Mae rhai o'i rolau adnabyddus yn cynnwys Becket (1964) gyferbyn a’i gŵr ar y pryd, Peter O'Toole, Murphy’s War (1971), Mrs Ogmore-Pritchard yn Dan y Wenallt (1971), Mrs Emmeline Pankhurst yng nghyfres ddrama swffragét y BBC, Shoulder to Shoulder , Mam Mohiam yn y ffilm Dune (1984) a 'Mam' yn House of America (1997).
Enillodd Siân Wobr BAFTA Teledu am yr Actores Orau yn 1976 am Livia yn I, Claudius (BBC) a daeth yn enw cyfarwydd â ymddangosodd mewn llawer o benodau o Call My Bluff. Dros y blynyddoedd cafodd hi hefyd ei henwebu ar gyfer Gwobrau Olivier a Tony.
Derbyniodd hi’r CBE yn 2000 ac, yn 81 oed, mae hi’n parhau i weithio mewn amrywiaeth o rolau, gan gynnwys cydweithio’n ddiweddar gyda'r cerddor Rufus Wainwright. Ym mis Mawrth 2015 bydd hi'n serennu yn 'Playing for Time' yn Theatr y Crucible Sheffield.