Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Person Ifanc enillydd 2017

Mae Savannah wedi brwydro yn erbyn llawer o broblemau iechyd meddwl ers pan oedd yn 11 oed. Mae wedi cael diagnosis bod Anhwylder Gorbryder Cymdeithasol, Anhwylder Iselder Mawr arni ac mae wedi brwydro yn erbyn Anorecsia Nerfosa dro ar ôl tro, i enwi dim rhai. Fodd bynnag, mae wedi defnyddio’i phrofiadau i estyn allan i helpu eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.

Ymunodd Savannah â’r elusen ‘Fixers’ ac fe wnaeth ffilm fer am Orbryder Cymdeithasol a ddangoswyd ar ITV. Trwy hyn mae wedi dod yn eiriolwr cyhoeddus ac mae’r ffilm yn dal i gael ei dangos ym myd addysg.

Ers hynny mae wedi sefydlu tudalen ar y cyfryngau cymdeithasol gyda thros 1,000 o ddilynwyr, ac mae wedi cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau, gan helpu eraill sy’n uniaethu â’i phrofiadau. Yn ddiweddar daeth Savannah yn flogiwr gyda Huffington Post a’r platfform ar-lein ‘The Mighty’, a siaradodd gyda 500 o bobl yn Ignite Cardiff am Anorecsia Nerfosa, sy’n dipyn o gamp i rywun sydd ag Anhwylder Gorbryder Cymdeithasol ac sy’n cael anhawster cyfathrebu gydag eraill.

Treuliodd Savannah gryn dipyn o 2016 yn gwirfoddoli, yn helpu plant ac oedolion ag anghenion cymhleth yn UDA. Ei nod yw nid yn unig helpu pobl â materion iechyd meddwl, ond hefyd cysegru ei gyrfa i anghenion arbennig gan ei bod yn astudio i fod yn athrawes Anghenion Addysgol Arbennig. Mae Savannah wrthi ar hyn o bryd yn gweithio ar ei hail lyfr sy’n trafod ei siwrne gydag iechyd meddwl.