Ruth Jones
Gwobr arbennig y Prif Weinidog enillydd 2025
Mae Ruth yn actores ac awdur arobryn o Borthcawl. Cyd-ysgrifennodd a chyd-serennodd yng nghyfres gomedi y BBC, Gavin & Stacey, sydd wedi rhoi Barri ar y map byd-eang. Pan darlledwyd pennod olaf y sioe ar ddydd Nadolig 2024, cafodd ffigurau gwylio o 23 miliwn; hon oedd y sioe sgript a wyliwyd fwyaf ar draws yr holl sianeli darlledu a ffrydio ers dechrau’r cofnodion cyfredol yn 2002.
Yn ei gyrfa gynnar, bud Ruth yn gweithio mewn amrywiaeth o gomedi teledu a radio ar gyfer BBC Cymru ac mewn rolau theatr gyda'r RSC a'r National Theatre. Yn 1999, daeth ei pherfformiad yn y ffilm boblogaidd East Is East i sylw'r dramodydd teledu Kay Mellor, a chafodd ran yn Fat Friends ar ITV. Dyma pryd y cyfarfu Ruth â James Corden, a dechreuodd y ddau gyd-ysgrifennu ar gyfer teledu.
Mae Ruth bob amser wedi bod yn falch o'i gwreiddiau Cymreig. Hi wnaeth greu, cyd-ysgrifennu a serennu yn y ddrama gomedi Stella (2012–2017) ar Sky TV, wedi ei lleoli yng Ngwm Rhondda. Daeth hyn ag enwebiad BAFTA iddi am y Perfformiad Comedi Benywaidd Gorau a Gwobr BAFTA Cymru am y Sgriptiwr Gorau. Yn 2008, rhoddwyd Gwobr Sian Phillips i Ruth gan Bafta Cymru ac yn 2014 fe'i gwnaed yn MBE am ei gwasanaethau i adloniant. Mae Ruth yn falch o fod yn ddysgwraig Gymraeg a gymerodd ran yn Iaith Ar Daith ar S4C yn 2018.
Mae Ruth hefyd yn nofelydd sydd wedi bod yn Rhif 1 ar restr y Sunday Times. Mae ei chyfrolau wedi gwerthu dros filiwn o gopïau. Mae portreadu cymeriadau Cymreig a bywyd Cymru ym mhob un o’i nofelau: Never Greener, Us Three a Love Untold. Bydd ei phedwaredd nofel By Your Side yn cael ei chyhoeddi ym mis Mai.