Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Ysbryd y gymuned

Mae Ruth Dodsworth wedi bod yn wyneb cyfarwydd ar ein sgriniau teledu ers bron i 25 mlynedd. Ond er gwaethaf persona cyhoeddus iawn fel cyflwynydd teledu hyderus, dioddefodd Ruth flynyddoedd o gam-drin ac ymddygiad a oedd yn ei rheoli drwy orfodaeth gan ei chyn-ŵr. Am bron i 20 mlynedd, roedd yn ei rheoli bob cam, yn ei hynysu ac yn ymosod yn gorfforol arni yn aml.

Yn ystod y cyfnod hwn, parhaodd Ruth â'i gwaith teledu i gefnogi ei theulu ifanc. Pan gafodd ei thad ddiagnosis o ganser y gwaed, neilltuodd Ruth ei hamser sbâr i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer Ymchwil Canser Cymru, gan gynnwys cymryd rhan mewn treciau heriol ar draws Anialwch y Sahara a Gwlad yr Iâ, gan godi miloedd o bunnoedd yn y broses. Mae Ruth hefyd yn un o hyrwyddwyr elusen ‘Our Sam’ sy’n ymwneud â cholli babanod ac sy'n helpu teuluoedd mewn profedigaeth, pwnc sydd hefyd yn agos at ei chalon.

Yn 2019 fe wnaeth Ruth y penderfyniad dewr i sefyll yn erbyn y gamdriniaeth roedd hi'n ei dioddef. Gan ofni y byddai'n cael ei lladd pe bai'n mynd adref, ffoniodd yr heddlu.

Yn 2021 cafodd ei chyn-ŵr ei ddedfrydu i 3 blynedd o garchar.

Gwnaeth stori Ruth benawdau ar draws y byd, ac mae hi bellach yn gweithio'n ddiflino i godi ymwybyddiaeth o'r mater o reolaeth drwy orfodaeth. Mae Ruth yn gweithio'n agos gyda nifer o elusennau cam-drin domestig i ysbrydoli ac annog goroeswyr eraill i ddod ymlaen. Mae Ruth hefyd yn helpu gyda hyfforddi swyddogion ar draws pedwar heddlu Cymru i adnabod arwyddion o gam-drin domestig, fel bod modd achub bywydau.