Robin Jones
Gwobr Menter enillydd 2014
Mae The Village Bakery bellach yn fusnes ac yn gyflogwr mawr yng ngogledd Cymru. Tyfodd y cwmni’n sylweddol i gyrraedd gwerthiant o £33 miliwn ac mae’n cyflogi dros 250 o bobl, 97% ohonynt yn byw o fewn pedair milltir i’r popty. Mae’r cwmni’n darparu nwyddau ar gyfer amrywiol fanwerthwyr, gan gynnwys y Co-operative, Tesco a Marks & Spencer. Yn 2013 cyrhaeddodd frig y rhestr o 50 cwmni sy’n tyfu’n gyflym yng Nghymru. Mae pedair adran i’r cwmni, gan gynnwys Village Bakery Nutrition – popty heb glwten mwyaf y DU. Enillodd y cwmni Wobr Allforio Cymru yn 2011. Yn 2011 agorodd y Village Bakery safle newydd yn Wrecsam i gynhyrchu bwyd ar gyfer y bore. Mae’r popty newydd wedi creu 50 o swyddi newydd.
Yn 2013, cafodd y cwmni gydnabyddiaeth am y llwyddiant hwn gan ennill gwobr M&S ar gyfer cyflenwr maint canolig. Y polisi ers 10 mlynedd, dan arweiniad Robin, yw ceisio defnyddio cynhwysion lleol. Gwelir hyn fel ffordd o godi hyder yn y nwyddau, a chreu cynnyrch cwbl Gymreig ar gyfer y farchnad. O ganlyniad mae’r cwmni’n chwilio am gynhwysion allweddol gan gyflenwyr eraill o Gymru, fel menyn a llaeth enwyn. Hefyd mae’r cwmni wedi datblygu cyfleuster hyfforddi ar y safle, sy’n cynnig NVQ mewn technoleg pobi bara. The Village Bakery yw’r unig bopty i ymgeisio 3 gwaith yng nghystadleuaeth UK Craft Baker of the Year ac ennill 3 gwaith. Yn 2010, cafodd Robin Jones ei gydnabod fel Pobydd y Flwyddyn ar draws y DU, gwobr fawr yn y diwydiant.