Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Person Ifanc enillydd 2015

Dewiswyd Richard Davies o Bausley, Sir Drefaldwyn am y rhestr fer am ei ddyfeisgarwch a’i ddyluniad o gamera bacio arloesol ar gyfer defnydd amaethyddol.

Roedd Richard wastad wedi dangos diddordeb mawr mewn technoleg ac yn awyddus i ddeall pam a sut roedd pethau’n gweithio. Cafodd e A* yn ei DGAU Dylunio a Thechnoleg lle dyluniodd e arddangosiad ymarferol o flwch gêr. Cafodd y gwaith hwn ei enwebu ar gyfer Gwobrau Arloesedd CBAC. Dewisodd astudio Dylunio a Thechnoleg ar gyfer Lefel A. Fel rhan o’i gwrs AS, cynlluniodd gamera i helpu ei dad facio cerbydau mawr ar y fferm. Galluogodd y prosiect hwn iddo weld bwlch posibl yn y farchnad ar gyfer cynnyrch tebyg. Mae’r ddyfais yn gamera cwbl ddiwifr, sy’n gweithio ar y cyd ag unrhyw ddyfais Smart. Ei nod yw helpu pobl i symud carafanau ac ôl-gerbydau wrth facio. Mae’n caniatáu i’r defnyddiwr i newid cyfeiriad y camera ar bob echel er mwyn gweld ble maent yn cael eu gwrthdroi drwy redeg eu bysedd ar draws y sgrin. Aeth Richard ymlaen i ddatblygu’r prosiect hwn am ei waith Lefel A, a arweiniodd iddo gael ei goroni’n enillydd gwobr Peiriannydd Ifanc Prydain. Mae’r gwaith hwn hefyd wedi ei ddewis ar gyfer Gwobrau Arloesedd CBAC, lle’r enillodd Richard y wobr gyntaf ar gyfer Safon Uwch ar ‘r wobr am y prosiect mwyaf arloesol yng Nghymru.

Mae e nawr yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Harper Adams yn Swydd Amwythig.