Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Ar ddechrau pandemig y Coronafeirws ym mis Mawrth 2020 roedd prinder hylif diheintio dwylo. Daeth tîm bach o gydweithwyr o adrannau gwahanol ym Mhrifysgol Abertawe at ei gilydd i gynhyrchu hylif diheintio dwylo a fyddai’n cyrraedd safonau Sefydliad Iechyd y Byd. O fewn saith diwrnod darparwyd y swp cyntaf i ysbyty lleol.

Llwyddodd y tîm i gynhyrchu 5,000 litr yr wythnos i’w darparu i fyrddau iechyd lleol a chartrefi gofal. Tyfodd y prosiect yn gyflym ac roedd angen cefnogaeth 30 o wirfoddolwyr i’w gynnal. Roeddent yn gwirfoddoli yn ogystal â chyflawni dyletswyddau dyddiol eu swyddi. Roeddent yn gweithio’n agos gyda gweithgynhyrchwyr lleol i gaffael y symiau enfawr o gynhwysion roedd eu hangen. Addaswyd a mireiniwyd y broses weithgynhyrchu, ac adeiladwyd y cyfarpar newydd yn fewnol.

Cynhyrchodd y tîm gyfanswm o 34,000 litr o hylif diheintio dwylo i’w ddarparu i’r GIG, cartrefi gofal a sefydliadau’r sector cyhoeddus.