Prosiect Phoenix
Gwobr Rhyngwladol enillydd 2018
Mae Prosiect Phoenix yn rhan o raglen Trawsnewid Cymunedau Prifysgol Caerdydd, a lansiwyd yn y Senedd gan Brif Weinidog Carwyn Jones pedair blynedd yn ôl er mwyn gwella iechyd a lleihau tlodi yn Namibia.
Arweinir y prosiect gan yr Athro diflino Judith Hall, Athro Anestheteg, Gofal Dwys a Meddygaeth Poen, ac mae'n cynnwys grŵp ymroddedig o bobl â sgiliau arbenigol o bob rhan o Brifysgol Caerdydd, yn ogystal â sefydliadau eraill, gan gynnwys GIG Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. Maen nhw wedi gweithio ar draws ffiniau rhyngwladol i gyflawni canlyniadau sy'n cael effaith sylweddol ar Namibia. Mae'r prosiect yn cwmpasu tri maes eang, sef menywod, plant, a chlefydau heintus; gwyddoniaeth; a chyfathrebu. Mae'n un o brosiectau ymgysylltu blaenllaw Prifysgol Caerdydd, sy'n gweithio gyda chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym maes iechyd, addysg a lleihau tlodi. Ers lansio'r prosiect, mae staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia wedi creu dros 30 o becynnau gwaith mawr, gan sicrhau dros £1 filiwn o gyllid allanol. Mae'r cydweithio rhwng y prifysgolion wedi cryfhau'r gallu addysgu a'r arbenigedd arbenigol o fewn Prifysgol Namibia, gan arwain at weithlu mwy proffesiynol a chymwys.
Mae llwyddiannau Prosiect Phoenix yn cynnwys:
- trawsnewid maes anesthesia yn Namibia trwy hyfforddi anesthetyddion proffesiynol cyntaf erioed y wlad
- lansio mentrau diogelwch ffyrdd mawr a llwyddiannus iawn yn Namibia, gwlad sydd â'r ystadegau diogelwch ffyrdd gwaethaf yn y byd
- datblygu cymuned ysgrifennu Meddalwedd Python Namibia, gan wneud y wlad yn gynaliadwy yn y maes hwn
- gwerthfawrogi a datblygu cymunedau amlieithog Namibia, rhywbeth sy'n hynod bwysig ar gyfer prosiect o Gymru.