Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Pencampwr yr Amgylchedd

Mae tîm Prosiect Maelgi Cymru wedi gwneud gwaith ymchwil arloesol er mwyn deall yn well boblogaeth y maelgi sydd mewn perygl difrifol oddi ar arfordir Cymru. Cafodd y prosiect ei lansio yn 2018, a’i brif nod yw deall yn well a diogelu poblogaeth y siarc prin hwn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae’r maelgi o bwysigrwydd gwyddonol a diwylliannol sylweddol i Gymru, ac mae wedi ei restru fel y pumed siarc mwyaf unigryw yn esblygol ac mewn perygl ar lefel fyd-eang (EDGE), ac mae’n cynrychioli cangen benodol o goeden bywyd.

Mae brwdfrydedd y tîm dros gasglu gwybodaeth am boblogaeth y siarc prin hwn wedi golygu canfyddiadau cadwraethol, amgylcheddol a diwylliannol sydd o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae’r tîm prosiect wedi gweithio ochr yn ochr gydag amrywiaeth o sefydliadau a chymunedau, gan gynnwys pysgotwyr, Gwyddonwyr sy’n Ddinasyddion a phobl ifanc yn eu hymdrechion i ddiogelu’r maelgi. Canlyniad eu hymdrechion yw bod tystiolaeth wedi ei ganfod bod maelgwn yn rhoi genedigaeth oddi ar arfordir Cymru.

Mae canfyddiadau’r prosiect wedi eu rhannu drwy amrywiaeth o allbynnau addysgiadol gan gynnwys eLyfr ‘Angylion Cymru’ ar gyfer plant rhwng 7 ac 11 oed a sesiynau ‘Cyfarfod y Gwyddonwyr’. Mae’r prosiect wedi ei gyllido gan Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, ac On the Edge Conservation.