Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwilydd a pheirianydd meddygol

Mae arnom angen eich caniatâd i lwytho fideos YouTube

Gallai’r fideo yma ddefnyddio cwcis neu dechnolegau eraill nad yw eich gosodiadau LLYW.CYMRU yn gweddu iddynt.

Efallai yr hoffech ddarllen polisi preifatrwydd Google cyn derbyn.

Dewiswch 'derbyn a pharhau' i lwytho’r fideo yma.

Mae’r Athro Peter Wells CBE FRS FREng FMedSci FLSW MAE wedi cael ei enwebu am ei waith arloesol yn datblygu’r defnydd o uwchsain mewn diagnosis meddygol a llawdriniaethau.

Mae’n Athro Ymchwil nodedig yn y Sefydliad Peirianneg Feddygol a Ffiseg Feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol a’r Academi Peirianneg Frenhinol. Hyfforddodd yr Athro Wells yn wreiddiol fel Peiriannydd Trydanol ond yna trodd ei sylw at feddygaeth ac ail-hyfforddi ym Mryste a chael cymwysterau newydd mewn Ffiseg Feddygol a Sŵoleg. Yn 1971, fe'i penodwyd yn Athro Ffiseg Feddygol yn Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru. Aeth ymlaen i fod yn Brif Ffisegydd gydag Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Unedig Bryste a Chadeirydd Ffiseg a Pheirianneg mewn Meddygaeth ym Mhrifysgol Bryste, cyn dychwelyd i Gaerdydd. Dros y 40 mlynedd diwethaf, mae’r Athro Wells wedi cynhyrchu a datblygu ystod eang o offeryniaeth i helpu ym maes llawdriniaeth wltrasonig, diagnosis wltrasonig, canfod tiwmor â mesur pŵer wltrasonig gan gynnwys sganiwr wltrasonig cyffredinol dau-ddimensiwn a sganiwr bron sy’n gallu cael ei drochi mewn dŵr.

Mae hefyd wedi astudio’r peryglon o amlygiad dynol i uwchsain ac wedi llunio canllawiau diogelwch ar gyfer y defnydd doeth o offeryniaeth uwchsain. Mae’r Athro Wells yn helpu i ddatblygu math newydd o sganio CT sy’n debygol o gael ei ddefnyddio ar gyfer sgrinio’r fron wltrasonig ac mae ef hefyd yn arloeswr cynnar o ran ceisio datblygu ffurf llawer gyflymach o sganio uwchsain. Y llynedd, cafodd ei gydnabod am ei waith gan yr Academi Peirianneg Brenhinol.