Peter Stanley
Gwobr Pencampwr yr Amgylchedd enillydd 2025
Mae Peter wedi cyfrannu at raglenni ac astudiaethau amgylcheddol ar raddfa leol, genedlaethol a rhyngwladol. Bu’n allweddol i’r gwaith o daclo’r llygredd a etifeddwyd yn sgil mwyngloddio metel o 1,300 o fwynfeydd ar hyd 700km o ddyfrffyrdd. Mae wedi arddangos arloesedd blaenllaw Cymru i weithwyr amgylcheddol yn Seland Newydd, Rwsia, a Sweden, ac wedi cadeirio cynadleddau rhyngwladol yng Nghymru.
Mae Peter wedi trawsnewid ein dulliau o ymdrin â mwyngloddiau metel segur. O’r blaen, doedd dim un dull ar waith i edrych ar raddfa'r broblem a sut i’w datrys. Sefydlodd Peter raglen bwrpasol o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru. Fel arweinydd y rhaglen, bu'n cydgysylltu ac yn herio partneriaid, timau mewnol, rhanddeiliaid eraill gan sicrhau bod y rhaglen yn cael ei darparu a’i chyllido’n barhaus.
Yn ddiweddarach, Peter oedd Awdurdod Technegol Cyfoeth Naturiol Cymru i reoli'r portffolio mwyngloddiau metel a'r mesurau ymyrryd ledled Cymru sy'n helpu i gyflawni llai o lygredd, gwell newid statws Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ac adfer iechyd afonydd.
Un peth hynod y llwyddodd i’w wella yw ein dealltwriaeth o’r ffaith fod y mwyngloddiau metel yn Ucheldir Cymru yn bwysig ar gyfer ein tirwedd, treftadaeth a chynefinoedd glaswelltir Calaminaidd arbennig sy’n goddef metel.
Mae Peter wedi gweithio'n ddiwyd gyda phawb sy'n ymwneud â dynodiadau pwysig eraill yn ogystal ag iechyd afonydd. Mae'n uchel ei barch gan ei gyfoedion ac yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol.