Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Busnes

Dechreuodd Penderyn Whisky yn ôl yn y 1990au pan benderfynodd grŵp o ffrindiau sefydlu distyllfa mewn hen warws gwin ym Mhenderyn.

Dechreuodd y broses ddistyllu yn 2000, a chafodd y botel gyntaf o wisgi ei llenwi ym mhresenoldeb Tywysog Cymru yn 2004.

Ers hynny mae'r cwmni wedi tyfu'n gyflym, a gwelir Penderyn Whisky ar y silffoedd mewn siopau fel Waitrose a Harrods a rhai o westai Llundain fel The Ritz a The Savoy, ac mae'n cael ei allforio i wledydd mor bell â Siapan a Rwsia.

Mae'r cwmni yn cynhyrchu 330,000 potel o Penderyn Whisky bob blwyddyn, yn ogystal â diodydd alcoholaidd eraill megis Brecon Gin, Merlyn Liqueur a Five Vodka.

Brecon Gin bellach yw'r brand jin mwyaf yng Nghymru, gyda dros 300,000 o boteli’n cael eu cynhyrchu bob blwyddyn.

Mae'r ddistyllfa hefyd yn un o brif atyniadau twristiaeth Cymru, gyda dros 43,000 o ymwelwyr yn 2019, ac mae'r ddistyllfa yn bwriadu agor dwy ddistyllfa arall â chanolfannau ymwelwyr, yn Abertawe a Gogledd Cymru yn y dyfodol.