PC Rhodri Jones
Enwebiad ar gyfer gwobr Dewrder
Cafodd Heddlu Dyfed Powys alwad gan aelod o'r cyhoedd yn dweud fod ei ddau gi wedi mynd dros ymyl Argae Caban Coch. Roedd un ci yn edrych fel ei fod wedi marw, ac wedi glanio ar silff hanner ffordd i lawr wyneb yr argae. Ond roedd y llall yn fyw ac wedi'i anafu'n ddrwg. Roedd partner y galwr wedi dringo drosodd i geisio achub y cŵn ond wedi cwympo i lawr y llifddor gan ddioddef anafiadau sylweddol i'r wyneb a thorri ei garddwrn.
Erbyn hyn roedd ganddi afael ar y ci a anafwyd, ond roedd mewn perygl o gwympo bron100 troedfedd dros yr ymyl.
Y ddau heddwas Peter Evans a Rhodri Jones oedd y cyntaf i gyrraedd y safle. Gwelson nhw fod y ddynes mewn perygl o syrthio i'w marwolaeth. Roedd y tîm Achub Mynydd 45 munud i ffwrdd a dim ond trwy wthio ei throed yn erbyn carreg oedd yn sticio allan yr oedd y ddynes yn atal ei hun rhag syrthio i lawr wyneb llithrig yr argae. Rhaid oedd gweithredu'n gyflym.
Gwelodd PC Evans a PC Jones bod llwybr dianc posibl. Dyma nhw’n chwalu trwy ddrws dur i gael mynediad i stafell o fewn yr argae gydag ardal i’r dŵr orlifo. Gostyngodd PC Jones ei hun i lawr i'r ardal gorlifo ac at ymyl y llifddorau, heb unrhyw reiliau llaw i afael ynddynt. Trwy daflu rhaff achub o'r safle hwnnw, llwyddodd PC Jones i dynnu'r ddynes a'i chi yn ôl i leoliad diogel, gan achub eu bywyd.