Paul Bromwell
Gwobr Arwr Cymunedol enillydd 2025
Mae Paul Bromwell yn gyn-filwr y Gwarchodlu Cymreig a Rhyfel y Falklands.
20 mlynedd yn ôl sefydlodd elusen Valley Veterans yn y Rhondda, gan ddarparu cefnogaeth wythnosol i gyn-filwyr bregus er budd eu hiechyd meddwl a chorfforol. Rhoddodd ei ddiagnosis PTSD 25 mlynedd yn ôl gipolwg personol iddo ar anghenion cymhleth a brwydrau ei gyd-gyn-filwyr. Derbyniodd Paul hyfforddiant fel mentor cymorth iechyd meddwl cyn-filwyr a arweiniodd at sefydlu Valley Veterans. Am y 15 mlynedd gyntaf ariannodd Paul y grŵp yn bersonol drwy ailforgeisio ei gartref i brynu tir i adeiladu stablau ar gyfer gwasanaethau therapi ceffylau i gynorthwyo iechyd meddwl a lles cyn-filwyr. Ers hynny, mae Paul wedi ehangu'r gefnogaeth a gynigir yn y ganolfan.
Mae'r ardal natur a ddatblygwyd yn ddiweddar ger y stablau yn cynnig gweithgareddau garddwriaethol, ac yn y Clybiau Brecwast ddwywaith yr wythnos ceir bwyd a diodydd poeth ochr yn ochr â'r cymorth cyflogaeth, tai a budd-daliadau ac iechyd meddwl y mae'r elusen yn eu darparu.
Mae Paul wedi sefydlu cysylltiadau cryf rhwng Valley Veterans a’r elusen iechyd meddwl MIND a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cyn-filwyr GIG Cymru. Er gwaethaf ei heriau iechyd ei hun, mae Paul wedi helpu'r ganolfan i dyfu i gefnogi tua 140 o gyn-filwyr ac mae'n cael ei gydnabod fel yr esiampl orau i grwpiau cymorth cyn-filwyr eraill ei efelychu yng Nghymru.