Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd gwobr gwasanaethau cyhoeddus 2025

Mae Patrick Watts yn gweithio fel offthalmolegydd pediatrig ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Ymgartrefodd yng Nghymru ar ôl mudo o India fel meddyg cymwys ôl-raddedig. Hyfforddodd yn Swydd Efrog, Windsor, Cymru, Llundain a Chanada cyn derbyn swydd ymgynghorydd yng Nghymru. Am bum mlynedd bu'n gweithio fel cyfarwyddwr y rhaglen hyfforddiant offthalmig yng Nghymru ac roedd yn bersonol gyfrifol am hyfforddi traean o’r offthalmolegwyr ymgynghorol sy'n gweithio yng Nghymru, yn ogystal ag eraill sydd wedi symud i weithio mewn mannau eraill.

Bu'n arwain y gwaiht o greu ystafell efelychu offthalmeg newydd yng Nghaerdydd. Mae'n ymroddedig i'r proffesiwn ac mae wedi bod yn awdur diflino canllawiau a dogfennau addysgu Coleg Brenhinol yr Offthalmolegydd yn ei amser ei hun. Un maes ymchwil y mae wedi'i arwain yw anaf i'r llygad nad yw'n ddamweiniol, a sut y gall meddygon edrych allan am arwyddion o gam-drin mewn babanod.

Mae ei ganllawiau a'i astudiaethau yn y maes ymchwil hwn wedi arwain y ffordd yn y Deyrnas Unedig. Mae wedi teithio ledled y byd fel athro gwadd gan helpu i roi Cymru ar y map rhyngwladol drwy ei ymchwil. Trwy ei waith, mae wedi achub golwg babanod a phlant di-rif ac mae'n cael ei ystyried fel yr offthalmolegydd pediatrig uchaf yng Nghymru ers dros ddegawd.