Pamela Morgan
Enwebiad ar gyfer gwobr Dinasyddiaeth
Am y 14 mlynedd diwethaf, mae Pamela Morgan o Gaerdydd wedi gwirfoddoli gyda thîm Hawliau Lles Age Connects Caerdydd a Bro Morgannwg.
Mae hi wedi gwneud cyfraniad eithriadol i iechyd a lles pobl hŷn sydd mewn peryg o niwed drwy gynnal ymweliadau cartref i’w helpu a’u cynghori ar wneud ceisiadau budd-dal. Yn ystod ei blynyddoedd o wirfoddoli, mae Pamela wedi ymweld â rhwng pedwar a chwech o bobl yr wythnos, sef cyfanswm o 3,000 o ymweliadau a dros miliwn o bunnoedd mewn hawliadau budd-dal. Mae Pamela wedi datblygu gwybodaeth helaeth am fudd-daliadau ar gyfer pobl hŷn. Gall ceisiadau am Lwfans Gweini a Lwfans Byw i’r Anabl fod yn gymhleth, yn enwedig ar gyfer y rhai â iechyd gwael neu sydd ag anableddau corfforol neu synhwyraidd.
Mae ei hymroddiad, profiad bywyd a sgiliau cyfathrebu ardderchog wedi gwella bywydau llawer iawn o bobl hŷn dros gyfnod sylweddol hir o amser. Yn 2011, penodwyd Pamela yn Gadeirydd Pwyllgor Merched Caerdydd Tenovus, sydd wedi codi dros £250,000 ar gyfer yr elusen dros y 15 mlynedd diwethaf.
Rhwng 1999 a 2004, roedd hi’n gwirfoddoli yn Ysgol Iau Parc Ninian yn wythnosol i helpu blynyddoedd 1 a 2 gyda’u rhifedd a llythrennedd.