Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Dewrder

Galwyd Cwnstabl Owen Davies a Chwnstabl Rhiannon Hurst o Heddlu Gwent i dŷ ar dân yng Nghasnewydd yn ystod oriau mân y bore ar 9 Ionawr 2014.

Pan gyrhaeddon nhw’r tŷ, derbyniwyd manylion am y sawl oedd yn byw yno gan gynnwys bachgen anabl oedd yn sownd yn yr atig. Wrth ddisgwyl i’r  Gwasanaeth Tân gyrraedd a heb oedi, aeth y 2 swyddog i’r adeilad oedd ar dân gan leoli 7 aelod o’r teulu a’u tynnu allan yn ddiogel.

Aeth y 2 yn ôl i’r adeilad i geisio achub y bachgen oedd yn sownd yn yr atig. Unwaith y cawsant hyd i’r drws i’r atig, aeth PC Hurst allan i alw am gymorth pellach. Serch hynny, nid oedd PC Davies yn gallu agor y drws a cafodd ei orfodi i adael yr adeilad oedd ar dân gan fod malurion tanllyd yn syrthio. Pan gyrhaeddodd y Gwasanaeth Tân, rhoddodd y swyddogion fanylion am leoliad y plentyn oedd wedi’i gaethiwo a chafodd ei achub yn ddiogel.

Achubwyd yr 8 aelod o’r teulu heb unrhyw anafiadau difrifol oherwydd dewrder y 2 enwebai a’u gallu i feddwl yn sydyn.