Olly Williams
Enwebiad ar gyfer gwobr Person Ifanc
Mae Olly yn fachgen ifanc 8 oed o Gasnewydd, Gwent, sy'n helpu i ofalu am ei chwiorydd y mae gan bob un ohonynt anghenion ychwanegol cymhleth. Mae'n dangos lefel o garedigrwydd a thosturi anghyffredin am ei oedran.
Mae Olly yn gofalu am ddwy chwaer hŷn ac un chwaer iau sydd oll â namau corfforol cymhleth ac anableddau dysgu ac angen goruchwyliaeth gyson. Gofalodd Olly hefyd am chwaer iau a fu farw y llynedd, yn sydyn ac yn annisgwyl ychydig cyn ei phen-blwydd yn 2 oed.
Er gwaethaf profedigaeth ddiweddar ei deulu, mae Olly yn dal ati gyda’i gyfrifoldebau tuag at ei chwiorydd a'i rieni. Mae'n dangos ymroddiad i'w deulu o dan amodau emosiynol heriol ac mae'n parhau i ganolbwyntio ar ei addysg a'i ffrindiau tra’n cyflawni rôl bwysig fel gofalwr yn ei deulu.
Mae Olly yn treulio llawer o amser gyda'i chwiorydd ac yn deall eu hanghenion unigol yn dda iawn, gan sicrhau bod y gweithwyr proffesiynol sy'n gofalu amdanynt yn wybodus. Mae'n dangos i ofalwyr sut i ymgysylltu a chwarae gyda'r merched, pob un ohonynt yn ddi-eiriau ac yn cael trafferth cyfathrebu.
I ryw raddau bu'n rhaid i anghenion Oly ei hun ddod yn ail i rai ei chwiorydd ac mae'n ymdopi â hyn gyda chadernid rhyfeddol a lefel o aeddfedrwydd sy'n fwy na’i oedran. Mae'n berson ifanc gwirioneddol ryfeddol sy'n ofalgar, yn sensitif ac yn empathig, ac sydd wedi cynnal y rhinweddau hyn er ei fod yn frawd i blant anabl, yn ofalwr ac yn ddiweddar wedi byw trwy brofedigaeth fawr.