Nizar Dahan
Enwebiad ar gyfer gwobr Rhyngwladol
Mae Nizar Dahan, o Abertawe, yn gweithio i’r Sefydliad Cymorth Dynol ar hyn o bryd ac mae wedi cael ei enwebu am ei waith dyngarol rhyngwladol mewn ymateb i’r argyfwng presennol gyda ffoaduriaid ac am sefydlu menter o’r enw SHARP; Swansea Humanitarian Aid Response Project, sy’n ennyn cefnogaeth leol i bobl sydd wedi’u dadleoli ac sy’n agored i niwed yn ogystal â chodi arian ar gyfer pobl sydd mewn angen dybryd.
Yn ogystal â bod wedi codi tua £55,000 i’r Sefydliad Cymorth Dynol, ers mis Medi 2015 mae Nizar wedi codi dros £100,000 yn bersonol i roi cymorth i ffoaduriaid a phobl sydd wedi’u dadleoli yn Abertawe, mewn rhannau ehangach o’r DU, yng Ngwlad Groeg, Ffrainc, yr Almaen, Awstria, Serbia, Gwlad yr Iorddonen, Libya, Syria, Libanus a Ghana.
Yn ddiweddar yng Ngwlad Groeg, bu’n gweithio yn Samos yn cefnogi ffoaduriaid a oedd yn byw mewn amodau gwael a gwersylloedd dros dro. Fe wnaeth hyn ar ôl ei waith yn danfon bwyd a chyflenwadau i ffoaduriaid a phobl anabl yn Athen, gan godi digon o arian (tua £6,000) i gefnogi nifer o deuluoedd agored i niwed yn breifat. Sefydlodd Gegin gymdeithasol ar Ynys Samos, lle bu yntau a’i dîm bach o wirfoddolwyr yn coginio prydau bwyd i fwydo 1500 o bobl yn ddyddiol gan gynnwys Groegwyr digartref.
Mae Nizar hefyd wedi dychwelyd yn ddiweddar o daith gymorth i Ghana, lle bu ef a’i dîm yn codi arian i adeiladu ffynhonnau dŵr ac yn adeiladu 60 ohonynt yn y rhannau mwyaf anghysbell o’r wlad, yn ogystal ag agor ysgol / canolfan gymunedol yn Tamali, yng ngogledd Ghana.
Heblaw am ei deithiau niferus i Wlad Groeg, mae Nizar hefyd wedi casglu a danfon rhoddion i wersyll ‘y jyngl’ yn Calais. Mae wedi gweithio gyda phlant mewn cartrefi i blant amddifad ledled Ewrop ac Asia, gan ddarparu gwibdeithiau a diwrnodau gweithgareddau iddynt brofi hwyl a normalrwydd yr oedd eu dirfawr angen arnynt.