Nigel Owens
Gwobr arbennig y Prif Weinidog enillydd 2016
Mae Gwobr Arbennig y Prif Weinidog yn 2016 wedi ei roi i’r dyfarnwr rygbi rhyngwladol Nigel Owens.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones AC:
Mae yna nifer o resymau pam rydw i’n edmygu Nigel a’i holl lwyddiannau, ond gadewch i mi ddweud mwy am ddau ohonyn nhw.
Yn ei broffesiwn, mae e’n cael ei weld fel un o’r goreuon yn y byd, a tra’n cyflawni’r rôl honno, mae e’n lysgennad gwych i Gymru. Mae hefyd wedi ysbrydoli nifer fawr o bobl – yn enwedig pobl ifanc – am sut i fod yn driw i’w hunain a sut i fyw y bywyd maent yn dymuno.
Fe oedd yr unig ddyfarnwr o Gymru yng Nghwpan y Byd 2007 yn Ffrainc a Chwpan y Byd 2011 yn Seland Newydd. Yn fwyaf cofiadwy, fe oedd dyfarnwr rownd derfynol Cwpan y Byd yn 2015 yn Lloegr. Mae’n cael ei barchu gan chwaraewyr a chefnogwyr ac yn cael ei adnabod am ei ffraethineb miniog a’i natur hawddgar.
Wrth gwrs, mae wedi brwydro gyda materion personol ei hun. Er ei fod yn rhan o fyd ‘macho’ iawn, fe benderfynodd, yn ei eiriau ei hun ‘i stopio byw celwydd’ a chyhoeddi i’r byd ei fod yn hoyw. Ers hynny, mae e wedi gwario llawer o amser yn siarad am ei rywioldeb, ac rwy’n credu ei fod wedi helpu nifer o bobl ifanc yn enwedig i ddod i delerau â’u rhywioldeb eu hunain ac i gael yr hyder i drafod y pwnc gyda’u ffrindiau a’u teuluoedd.