Nicole Cook MBE
Enwebiad ar gyfer gwobr Chwaraeon
Mae Nicole Cooke o'r Wig ym Mro Morgannwg wedi rhoi seiclo menywod ar y map yn y DU. Drwy gydol ei gyrfa bu'n ymgyrchydd diflino dros ymddygiad moesol ym myd chwaraeon.
Mae gan Nicole palmarès bron heb ei hail ym myd seiclo Prydain. Yn 2001 gadawodd Ysgol Brynteg i fod yr unig feiciwr benywaidd Prydeinig mewn tîm cyfandirol. Cadarnhawyd ei phenderfyniad yn ddiweddarach y flwyddyn honno pan enillodd Ras Ffordd Gemau'r Gymanwlad. Yn 2003 daeth yr enillydd ieuengaf erioed, boed gwryw neu fenyw, o Gwpan y Byd, a’r enillydd cyntaf erioed o Brydain. Yn 2004 hi oedd y beiciwr cyntaf o Brydain i ennill Taith Fawr, a bu ar y brig yn y Giro d'Italia wrth gwblhau yn y cyflymder cyflymaf ar gyfartaledd a’r enillydd ieuengaf erioed. Nes ymlaen enillodd Tour de France y menywod ddwywaith, yn ogystal â chlasuron megis Tour of Fflanders, FèlcheWallonne, Amstel Gold a llawer mwy.
Er gwaethaf damweiniau ac anafiadau difrifol, goronodd Nicole ei gyrfa gyda champ ddwbl unigryw yn 2008, gan ddod y person cyntaf erioed i fod yn Bencampwr Byd a'r Ras Ffordd Olympaidd. Ymddeolodd yn 2012 ac ers hynny mae wedi cwblhau MBA ym Mhrifysgol Caerdydd ac ysgrifennu a rhyddhau ei hunangofiant.