Mosg Sgeti
Enwebiad ar gyfer gwobr Arwr Cymunedol
Mae Mosg a Chanolfan Gymunedol Sgeti, a sefydlwyd yn 2023 yn Abertawe, yn gwasanaethu cymunedau Mwslimaidd a chymunedau eraill yr ardal. Ers i’r Mosg agor, mae wedi dod yn ganolbwynt i’r gymdeithas leol, nid yn unig fel man addoli ond hefyd fel cyrchfan gymdeithasol, diwylliannol ac addysgol i'r gymuned sy’n helpu i feithrin cynhwysiant a chydlyniant cymunedol. Mae'r Mosg wedi hyrwyddo deialog ac integreiddio diwylliannol trwy drefnu digwyddiadau rhyng-ffydd, i unigolion o wahanol grefyddau gael gwell dealltwriaeth o grefydd a diwylliant ei gilydd. Mae hefyd yn rhoi cymorth academaidd i bobl ifanc, yn enwedig y rhai o gefndiroedd difreintiedig, drwy gynnig gwersi Mathemateg, Ffiseg, Arabeg ac Astudiaethau Crefyddol i baratoi ar gyfer TGAU, Safon Uwch ac arholiadau Bagloriaeth Cymru. Yn ogystal, mae’r mosg yn cynnig cyfle i bobl ifanc wneud gwaith gwirfoddol a dysgu cyfrifoldeb cymdeithasol trwy weithgareddau eraill sy’n helpu i frwydro yn erbyn ynysu cymdeithasol.
Un o fentrau allweddol y mosg yw Clwb Lolfa Dê Sgeti, sy'n denu dros hanner cant o bobl dros 50 oed bob wythnos, llawer ohonynt o gymunedau ethnig amrywiol. Mae’r clwb te yn helpu i leddfu unigrwydd a rhoi ymdeimlad o berthyn iddynt.
Mae gwaith y mosg gyda theuluoedd noddfa a phobl eraill sy'n agored i niwed, wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i'w bywydau. Mae dosbarthu bwyd a dillad wythnosol yn diwallu anghenion sylfaenol y rhai sydd angen help. Mae ymrwymiad y mosg i daclo tlodi mislif hefyd yn arloesol - dyma'r unig fosg yng Nghymru sy'n cynnig cynhyrchion mislif am ddim - achubiaeth i lawer o fenywod, yn rhoi urddas a mynediad at gynhyrchion hylendid hanfodol.