Moneypenny
Gwobr Busnes enillydd 2020
Cafodd Moneypenny ei sefydlu yn 2000 gan frawd a chwaer Ed Reeves a Rachel Clacher CBE, ar ôl i wasanaeth ymdrin â galwadau roedd Ed yn ei ddefnyddio golli cleient pan oedd ar wyliau.
Y nod oedd cynnig gwasanaeth ateb galwadau rhagorol ar gyfer busnesau. Heddiw mae'r cwmni yn cynnig yr un staff gwych, ond amrediad ehangach o wasanaethau cyfathrebu â chwsmeriaid sy'n seiliedig ar dechnoleg fel ateb y ffôn, switsfwrdd, y cyfryngau cymdeithasol ac yn ddiweddarach sgwrsio byw ar gyfer 13,000 o fusnesau, ac maent yn ymdrin â 15 miliwn o alwadau a sgyrsiau bob blwyddyn ac yn cyflogi tua 650 o bobl yn eu pencadlys a adeiladwyd i'r pwrpas yn Wrecsam. Mae gan y cwmni swyddfeydd yn Llundain a Charleston yr UDA hefyd. Gwerth y cwmni yw tua £100 miliwn y flwyddyn, ac mae'n tyfu tua 20% bob blwyddyn.
Mae'r cwmni'n rhoi llawer o bwyslais ar fuddsoddi yn ei staff, ac mae wedi ymrwymo i fod yn un o'r gweithleoedd gorau yn y DU. O ganlyniad i'r ymrwymiad hwn maen nhw wedi bod ar Restr The Sunday Times o'r 100 Lle Gorau i Weithio ers deng mlynedd bron.
Yn 2015 sefydlodd y cwmni sefydliad elusennol, sydd bellach yn dwyn yr enw Mind The Gap, sy'n cynnig hyfforddiaethau yn y gweithle i bobl ifanc yn Wrecsam. Mae'r rhaglen bellach wedi cael ei hestyn i gynnwys Sir y Fflint, Manceinion a Lerpwl hefyd.
Mae'r rhaglen yn cynnwys hyfforddiaeth chwe mis sy'n cynnig profiad gwaith gyda phum cyflogwr gwahanol, yn ogystal â hyfforddiant a mentora i'w helpu i gyrraedd eu potensial.