Mike a Colette Hughes
Enwebiad ar gyfer gwobr Rhyngwladol
Mae Mike a Colette Hughes yn bâr priod ac maent yn cael eu henwebu am eu cyfraniad aruthrol dros yr 20 mlynedd diwethaf yn y gwaith o adfer Rwanda yn dilyn yr hil-laddiad.
Magwyd Mike yng Nghaerdydd a Colette mewn gwersyll ffoaduriaid yn ne Uganda ar ôl cael ei gorfodi i adael Rwanda, ei gwlad enedigol, gyda'i theulu pan oedd yn wyth mlwydd oed. Nhw yw'r aelodau sy'n gyfrifol am sefydlu Rwanda/UK Goodwill Organisation (RUGO).
Byddai eu bywydau'n newid yn sylweddol yn dilyn digwyddiadau erchyll 1994 yn Rwanda, gwlad enedigol Colette. Yn fuan ar ôl hil-laddiad Rwanda yn erbyn y Tutsis, helpodd Mike a Colette i sefydlu'r Rwanda UK Goodwill Organisation (RUGO) i gefnogi datblygiad yn Rwanda - gyda Mike fel y cadeirydd cyntaf a Colette yn cynnal y cyfarfodydd blaenorol yn eu cartref.
Yn 2002, symudon nhw i Rwanda, lle dechreuodd Mike gynghori'r llywodraeth ar ddatblygu ynni gwledig cynaliadwy. Yn 2004, fe'i penodwyd yn gynghorydd Llywodraeth Rwanda ar wyddoniaeth, technoleg ac arloesedd. Ar ôl dechrau ar 'sylfaen sero' yn dilyn hil-laddiad yn erbyn y Tutsis, mae'r wlad bellach yn arweinydd yn Affrica o ran defnyddio gwyddoniaeth, technoleg ac arloesedd fel sbardun allweddol i dyfiant a datblygiad, ac i leihau tlodi. Mae Mike yn cynrychioli Llywodraeth Rwanda mewn cynadleddau rhyngwladol mawr yn rheolaidd, gan arddangos llwyddiant Rwanda wrth ddefnyddio gwyddoniaeth a thechnoleg i gefnogi datblygiad economaidd ac i leihau tlodi.
Fodd bynnag, mae Mike a Colette yn parhau i lwyddo i ddod o hyd i'r amser i ymrwymo eu hymdrechion a'u hegni i'w gwaith elusennol. Mae RUGO yn parhau i ffynnu wedi 20 mlynedd.