Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Person Ifanc

Mae Michael yn 18 mlwydd oed ac mae wedi goresgyn llawer o rwystrau yn ei fywyd ifanc, ond mae wedi troi adfyd yn llwyddiant yn ei waith gwirfoddol a'i waith academaidd.

Collodd ei dad drwy glefyd Parkinson pan oedd yn wyth mlwydd oed, a gwnaeth hyn ei ysbrydoli i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i wella dulliau ar gyfer gwneud diagnosis. Mae wedi defnyddio ei wybodaeth i ddysgu pobl ifanc sydd wedi dioddef anfantais sut i godio, ac mae wedi cynorthwyo'r llywodraeth i gyflawni ei nod o wella iechyd meddwl.

Mae wedi cynrychioli Cymru mewn cystadlaethau pêl-foli o dan do a phêl-foli traeth, gan gynnwys Pencampwriaeth Pêl-foli Ewropeaidd i Bobl Iau yn 2019, ac mae'n hyfforddi i gynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2022.

Pan oedd yn ddeng mlwydd oed roedd yn gwirfoddoli yn y cartref nyrsio lle treuliodd ei dad flwyddyn olaf ei fywyd. Wrth siarad â gwirfoddolwyr, sylwodd ar batrwm yn nodweddion wynebau pobl sydd â chlefyd Parkinson. Trafododd ei hypothesis ag adrannau cyfrifiadureg, niwroleg a gwyddoniaeth fiofeddygol mewn prifysgolion, ac yn y pen draw gwnaethon nhw ei gymryd o ddifri. Gan ddysgu rhagor am ddeallusrwydd artiffisial, sylweddolodd y gellid mapio'r wyneb – gan ddefnyddio algorithm a fyddai'n defnyddio cronfa ddata o ddelweddau o'r wyneb, er mwyn nodi unrhyw beth o'i le.

Dysgodd Michael ei hun i godio, a thros yr wyth mlynedd diwethaf mae wedi defnyddio Linkedin a Skype i sefydlu tîm o ddatblygwyr, ystadegwyr a gwyddonwyr data ar draws tri chyfandir ac wyth cylchfa amser. Ers hynny mae wedi gwneud diagnosis ar 1,200 o bobl, gan dderbyn $250,000 o gyllid gan Pfizer wrth brofi'r dechnoleg sy'n seiliedig ar apiau yn 90 Clinig ledled Cymru a Lloegr. Ar hyn o bryd mae yn y brifysgol, ac mae'n bwriadu bod yn feddyg pediatrig.