Menna Fitzpatrick MBE
Enwebiad ar gyfer gwobr Chwaraeon
Yn ddim ond 19 mlwydd oed, daeth Menna Fitzpatrick y paralympian Prydeinig mwyaf llwyddiannus ym maes chwaraeon y gaeaf yn hanes Gemau Paralympaidd y Gaeaf 2018 yn Ne Korea.
Mae nam ar olwg Menna gan mai dim ond 5% y mae'n gallu ei weld a gyda'i harweinydd Jennifer Kehoe, enillodd wobr efydd yn y super-G, dwy wobr arian yn y slalom cyfun a mawr a slalom aur yn niwrnod olaf y Gemau Paralympaidd yn Pyeongchang.
Cariodd y faner dris Dîm Prydain yn seremoni gau y gemau Paralympaidd.
Menna oedd y person ieuengaf ar restr anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines yn ddiweddar, gan dderbyn MBE am ei gwasanaeth i'r chwaraeon.
Mae Menna yn llysgennad gwych dros y chwaraeon, ac mae'n cefnogi digwyddiadau lleol a chenedlaethol gan helpu i gael mwy o bobl anabl yn rhan o'r gamp.