Matthew’s House
Enwebiad ar gyfer gwobr Gweithwyr hanfodol (allweddol)
Mae Matthew's House yn brosiect gan elusen The Hill Church yn Abertawe a sefydlwyd yn 2016 i helpu'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Fel arfer maent yn cynnig pum ffordd wahanol o fynegi Gobaith sy'n helpu pobl ddigartref a bregus yn y ddinas, gan ddarparu prydau poeth, pecynnau parch a chyfleusterau golchi dillad a chawodydd.
Ar ddechrau pandemig y Coronafeirws, cydnabu Matthew's House yr angen i gefnogi'r rhai mwyaf anghenus yn Abertawe gan fod yn rhaid i lawer o sefydliadau gwtogi eu gwasanaethau'n sylweddol.
Arweiniodd Matthew’s House ymgyrch o'r enw Swansea Together, gan ddod â mwy na 50 o sefydliadau at ei gilydd i gynnig darpariaeth ar gyfer y rhai sy'n agored i niwed a'r digartref. Cynhaliwyd yr ymgyrch rhwng mis Mawrth a mis Awst 2020 a darparodd gannoedd o brydau cynnes i bobl sy'n cysgu ar y stryd a'r rhai sy'n agored i niwed. Dosbarthwyd pecynnau prydau bwyd i hosteli a llety gwely a brecwast o amgylch Abertawe ac unwaith yr wythnos, roedd pethau ymolchi hefyd yn y pecyn. Yn ystod y cyfnod hwnnw, dosbarthwyd 18,000 o brydau poeth i'r rhai a oedd yn byw mewn llety dros dro. Ym mis Awst, symudodd Matthew's House i ddarparu gwasanaeth tecawê deirgwaith yr wythnos o'u hadeilad ar Stryd Fawr Abertawe. Roedd Matthew's House hefyd yn sicrhau bod gwasanaeth siop tecawê ar frys ar gael saith diwrnod yr wythnos gan elusennau a grwpiau eraill y maent yn gweithio ochr yn ochr â nhw.