Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Rhyngwladol

Yn wreiddiol o Gaerdydd, mae’r actor hynod lwyddiannus, Matthew Rhys, wedi'i gymeradwyo am ddefnyddio ei statws i hyrwyddo Cymru a Chymreictod gartref a thramor.

Mae'n fwyaf adnabyddus am ei rolau yn ‘Brothers & Sisters’, ‘The Americans’ ac fel Dylan Thomas yn y ffilm ‘The Edge of Love’. Mae wedi chwarae llawer o rolau eraill ac wedi mwynhau gyrfa actio amrywiol mewn teledu, ffilmiau ac ar lwyfan, yng Nghymru, y DU, yr Unol Daleithiau ac yn fyd-eang. Mae ei yrfa ryngwladol lwyddiannus wedi helpu i hybu proffil Cymru, a’i ddiwydiannau sgrin, dramor.

Mae Matthew hefyd yn helpu i godi proffil Cymru yn yr Unol Daleithiau. Yn 2013, perfformiodd ‘Nadolig plentyn yng Nghymru’ gan Dylan Thomas yn Swyddfa Conswl Prydain yn Efrog newydd, sef digwyddiad a drefnwyd gan Ganolfan Ryngwladol Cymru i ddechrau dathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas yn 2014.

Yma yng Nghymru, mae Matthew yn gefnogwr brwd o nifer o sefydliadau a digwyddiadau diwylliannol gan gynnwys Tafwyl a'r Eisteddfod Genedlaethol. Mae'n aelod o urdd derwyddon Gorsedd y Beirdd am ei gyfraniad i’r Gymraeg a Chymru.