Mark Smith, Geoff Handley ac Adam Handley
Enwebiad ar gyfer gwobr Dewrder
Ym mis Chwefror 2020, bu llifogydd helaeth yng Nghymru wedi Storm Dennis. Yn Sir Fynwy, gorlifodd Afon Gwy ei glannau, ac aeth un fenyw 62 oed yn sownd ar ôl gyrru i mewn i lif uchel yr afon. Dringodd ar do ei char wrth i’r dŵr barhau i godi, lle cafodd ei gweld 12 awr yn ddiweddarach gan Geoff Handley a oedd yn mynd â’i gi am dro. Sylweddolodd Geoff pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa a galwodd am help. Daeth Mark Smith a’i fab Adam Handley i’w helpu a heb feddwl am eu diogelwch eu hunain, aeth y dynion i mewn i’r dŵr oer iawn i helpu’r fenyw a oedd yn dioddef o hypothermia ac yn colli ymwybyddiaeth ar adegau. Gwnaethant lwyddo i’w chludo i ddiogelwch y lan cyn i’r gwasanaethau brys gyrraedd. Gwnaeth eu hymddygiad anhunanol achub bywyd y fenyw.