Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Menter enillydd 2015

Mae Mario Kreft MBE wedi cael ei ddewis yn deilyngwr am ei waith wrth sefydlu a datblygu Gofal Pendine Park yn Wrecsam. 

Dechreuodd ar y gwaith yn 1985 gyda’i wraig Gill am na allent ddod o hyd i gartrefi gofal oedd yn cyfateb i’w gofynion pan oeddent yn chwilio am gartrefi ar gyfer eu neiniau a’u teidiau oedrannus.

Mae Sefydliad Gofal Pendine Park yn gosod pwyslais mawr ar hapusrwydd a lles eu trigolion ac mae’r cwmni wedi mynd o nerth i nerth dros y 30 mlynedd diwethaf. Mae’r cwmni bellach yn cyflogi dros 600 o bobl mewn saith o gartrefi gofal, cwmni gofal cartref, Byw’n Annibynnol a’u Canolfan Gofal Dysgu mewnol. Mae’r gwaith o adeiladu canolfan dwyieithog o ragoriaeth ar gyfer gofal dementia ac 16 o fflatiau gofal, gwerth £7 miliwn, ar safle hen ysbyty cymunedol, Ysbyty Bryn Seiont yng Nghaernarfon, yn mynd rhagddo a dylai fod yn agored ym Medi 2015. 

Mae Mario yn Gadeirydd Fforwm Gofal Cymru (CFW), sy’n cynrychioli’r sector gofal annibynnol yng Nghymru ac ef yw sylfaenydd y Gwobrau Gofal Cymru mawreddog. Derbyniodd Mario MBE yn 2010 am ei gyfraniad i ofal cymdeithasol yng Nghymru a gafodd ei enwi fel un o’r 50 o bobl fwyaf dylanwadol ym maes gofal cymdeithasol yn y DU gan gylchgrawn Caring Business.