Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Person Ifanc

Efeilliaid 8 oed o Gaerdydd yw Marieme a Ndeye Ndiaye. Credir mai nhw yw'r unig efeilliaid cydgysylltiedig sy'n tyfu yn Ewrop ac maent wedi rhagori ar ddisgwyliadau meddygon o ran hyd eu hoes.

Daeth yr efeilliaid i'r DU pan oeddent yn wyth mis oed am gymorth meddygol arbenigol ac nid oedd disgwyl iddynt oroesi. Erbyn hyn, maent wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, wedi derbyn Dinasyddiaeth y DU a chyda chymorth staff meddygol a'u cymuned ysgol maent yn byw bywyd i'r eithaf.

Mae’r merched wedi integreiddio i addysg a chymdeithas prif ffrwd ac weid gwneud ffrinidau. Er eu bod yn wynebu heriau iechyd sylweddol, maent yn ymdrechu i fyw fel plant 8 oed. Mae eu cyd-ddibyniaeth yn golygu y gall iechyd un efaill effeithio'n fawr ar y llall. Ond mae’r gwydnwch a dewrder y ddwy yn creu cryn argraff ar bawb, gan gynnwys athrawon a chyfoedion.

O'r diwrnod y cawsant eu geni mae Marieme a Ndeye wedi brwydro i oroesi. Mae'r ffordd unigryw y maent wedi eu huno yn golygu na ellir eu gwahanu ac maent yn dibynnu ar ei gilydd i fyw. Yn enwedig Marieme, sy'n dibynnu ar ei chwaer i gael y rhan fwyaf o'r ocsigen sydd ei angen arni i oroesi. Er y risgiau a wynebant ac er bod eu hiechyd yn fwy bregus dydyn nhw byth yn gadael i unrhyw beth eu dal yn ôl.

Bob dydd mae'r efeilliaid yn ysbrydoli'r rhai o'u cwmpas gyda'u dewrder. Beth bynnag a ddaw, dydyn nhw byth yn ildio a’u nod o hyd yw DATHLU BYWYD.