Makenzy Beard
Enwebiad ar gyfer gwobr Person Ifanc
Mae Makenzy Beard yn artist 15 oed o Abertawe. Dim ond ar ddechrau’r cyfnod clo pan gaeodd yr ysgolion ac y daeth yr holl gampau roedd hi’n eu gwneud i ben (hoci i Gymru, pêl-droed i Ysgolion Abertawe, pêl-rwyd i’r sir ac achubwr bywyd yn Langland ar Benrhyn Gŵyr), y gwnaeth hi ddechrau peintio, a hithau’n 13 oed ar y pryd. Roedd hi'n synnu'n fawr ei bod wrth ei bodd wrth greu portreadau emosiynol a myfyriol, ac roedd gallu technegol ganddi hefyd.
Cafodd ei hymgais go iawn gyntaf, sef darn ar gyfer Sioe Haf Artistiaid Ifanc yr Academi Frenhinol yn Llundain, ei dewis i'w harddangos o blith mwy na 30,000 o geisiadau. Fe wnaeth y portread hwn o ffermwr lleol mewn siaced lachar, John Tucker, a oedd yn dal ei naws i’r dim, gael ei rannu'n eang ar wahanol gyfryngau, gan ennyn diddordeb cenedlaethol eang. Mae’r paentiad hwn, ynghyd â phaentiadau wedi hynny, hefyd wedi ysgogi trafodaeth yn rhyngwladol.
Mae'n parhau i beintio pan fydd hi’n gallu (wynebau diddorol sydd â stori yn bennaf) yn ei sied fach yn yr ardd. Yn aml mae ei chwaer yn mynd draw â phaned o de iddi gan dynnu ei sylw a rhoi cyngor iddi. Fodd bynnag, gyda'r byd chwaraeon a bywyd ysgol bellach wedi ailgydio, mae dod o hyd i'r amser i ymateb i'r galw cynyddol ychydig yn anos.
Mae ei gwaith i'w weld yn Oriel Blackwater yng Nghaerdydd ac ar ei chyfrif Instagram.