Mair Elliott
Gwobr Dinasyddiaeth enillydd 2018
Mae Mair Elliott yn 20 mlwydd oed ac yn gweithio fel ymgyrchydd iechyd meddwl ac awtistiaeth yng Nghymru.
Mae'n codi ymwybyddiaeth drwy siarad am ei phrofiad personol ei hun. Mae gan Mair anhwylder ar y sbectrwm awtistig ac mae wedi bod yn brwydro yn erbyn salwch meddwl difrifol ers iddi fod yn 14 oed.
Ers hynny, mae wedi derbyn cymorth gan wasanaethau iechyd meddwl ac mae'n brwydro o ddydd i ddydd i wella o'i salwch. Er gwaethaf ei brwydr bersonol, mae Mair yn treulio'i hamser yn ymgyrchu i wella gwasanaethau a chynyddu ymwybyddiaeth ynghylch iechyd meddwl ac awtistiaeth. Mae'n darparu tystiolaeth yn ysgrifenedig ac ar lafar i bwyllgorau'r llywodraeth, yn eistedd ar grwpiau cyfeirio arbenigol, yn ymddangos ar raglenni teledu, yn siarad mewn digwyddiadau, yn creu blogiau am ei phrofiadau, a llawer mwy.
Mae'n ymddiriedolwr i Hafal, darparwr mwyaf Cymru i bobl sydd â salwch meddwl, yn hyrwyddwr ymchwil y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd, yn hyrwyddwr ieuenctid Amser i Newid Cymru, ac yn cyfrannu at brosiectau a redir gan Anabledd Cymru, Pobl yn Gyntaf Sir Benfro, a Chyngor Sir Penfro. Mae Mair wedi cyflawni hyn i gyd a mwy wrth iddi frwydro'i salwch meddwl ei hun. Mae wedi gorfod dysgu sut i fyw ag anabledd, gan wynebu stigma ac anffafriaeth ar hyd y ffordd. Serch hynny, yn wyneb y brwydrau hyn mae Mair yn parhau i weithio a brwydro ar gyfer y cymorth a gofal cywir ar ei chyfer ei hun yn ogystal â phobl eraill. Mae'n angerddol o ran grymuso pobl ifanc i godi eu lleisiau a sefyll yn gadarn dros yr hyn maent yn ei gredu. Ar hyn o bryd, mae Mair yn astudio biowyddorau yn y coleg ac mae'n gobeithio astudio niwrowyddoniaeth yn y brifysgol.