Lynwen Brennan CBE
Enwebiad ar gyfer gwobr Diwylliant
Mewn sector ble mae menywod wedi eu tangynrychioli, mae Lynwen yn brawf bod dynes o bentref bach glan môr yng Ngorllewin Cymru yn gallu cyrraedd y brig mewn unrhyw sector, unrhyw le yn y byd.
Wrth i’r busnes adloniant ddechrau ar chwyldro newydd, Lynwen sydd wrth y llyw gydag un o’r brandiau mwyaf llwyddiannus a phwerus yn y sector ffilm rhyngwladol. Hi yw Rheolwr Cyffredinol Lucasfilm, y cwmni gwasanaethau adloniant yn San Ffransisco sy’n fyd-enwog am greu a chynhyrchu’r cyfresi Star Wars ac Indiana Jones ac am arwain ym maes effeithiau gweledol, ôl-gynhyrchu sain ac animeiddio cyfrifiadurol ar gyfer ffilm, teledu ac atyniadau thematig.
Aeth Lynwen i’r brifysgol yng Ngholeg y Royal Holloway, Llundain, cyn ennill ei swydd gyntaf gyda Parallax, sef y cwmni a ddatblygodd y feddalwedd CGI arloesol ar gyfer creu deinosoriaid Jurassic Park. Bu’n gweithio wedyn i gwmni Industrial Light & Magic gan feithrin ei harbenigedd a magu profiad eang ym mhob agwedd ar effeithiau gweledol ac animeiddio. Mae Lynwen yn dal i fod yn angerddol am Gymru; a bu cyfraniad Lynwen yn allweddol wrth sefydlu ILM London, sef stiwdio effeithiau gweledol ac animeiddio o safon byd-eang sydd wedi creu 400 o swyddi yn Llundain, gan gynnwys Adran Ymchwil a Datblygu ac adran llwyfan i feithrin arloesedd ym myd ffilm.