Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Arloesedd a Thechnoleg enillydd 2014

Dr Lyn Evans CBE FInstP FLSW FRSDr Lyn Evans, gwyddonydd o Gymru, yw arweinydd prosiect Gwrthdrawydd Hadronau Mawr CERN yn y Swistir.

Wedi’i eni a’i fagu yn Aberdâr, cafodd Dr Evans ei addysg yn yr Ysgol Ramadeg i Fechgyn yn Aberdâr, lle datblygodd ei ddiddordeb mewn ffiseg. Graddiodd yn 1969 o Brifysgol Abertawe. Cafodd ei wneud yn gymrawd er anrhydedd gan Brifysgol Cymru, Abertawe yn 2002 ac fe gafodd Ddoethuriaeth Gwyddoniaeth er anrhydedd gan Brifysgol Morgannwg ym mis Gorffennaf 2010. 

Aeth i CERN yn wreiddiol fel cymrawd ymchwil, ar ôl ymweld â’r sefydliad yn 1969. Ers 1994 bu’n ymwneud â’r gwaith o gynllunio’r prosiect sy’n cael ei adnabod bellach fel y Gwrthdrawydd Hadronau Mawr. Ar 11 Rhagfyr 2012 derbyniodd Wobr Arbennig Ffiseg Sylfaenol 2012. 

Mae’n adnabyddus iawn yn fyd-eang yn sgil ei waith gyda’r prosiect:  dyma’r peiriant gwrthdaro gronynnau uchaf ei ynni i’w greu erioed, ac mae’n cael ei ystyried fel un o gerrig milltir dynoliaeth ym maes peirianneg. Y nod yw caniatáu i ffisegwyr gynnal arbrofion ar wahanol theorïau ffiseg gronynnau a ffiseg ynni uchel, ac yn arbennig brofi neu wrthbrofi bodolaeth y gronynnau Higgs damcaniaethol a theulu mawr newydd o ronynnau sy’n cael eu rhagfynegi gan theorïau ‘supersymmetry’.

Disgwylir i’r Gwrthdrawydd roi sylw i rai o’r cwestiynau mawr sydd heb eu hateb ym myd ffiseg, gan ddatblygu dealltwriaeth y ddynoliaeth am ddeddfau ffiseg.