Lucy Cohen
Enwebiad ar gyfer gwobr Busnes
Dynes fusnes o Gaerdydd yw Lucy Cohen. Ar ôl prentisiaeth gydag AAT, sefydlodd Mazuma gyda ffrind pan oedd yn 23 oed, gan greu model tanysgrifio cyntaf y DU mewn cyfrifeg. Mae Mazuma bellach yn gwmni gwerth miliynau o bunnoedd ac yn creu cyfleoedd cyflogaeth yng Nghymru a thu hwnt. Cafodd Mazuma ei ysbrydoli gan brofiadau plentyndod Lucy ei hun o wylio ei theulu, pobl oedd yn gweithio yn y diwydiannau creadigol, yn cael trafferth gyda'u trethi. Mae hi bob amser wedi bod yn angerddol ynghylch darparu gwybodaeth ariannol dda i bawb o bob cefndir.
Gyda 22 mlynedd yn y diwydiant cyfrifeg, mae Lucy yn cael ei chydnabod yn eang fel arbenigwr yn y diwydiant, ac mae wedi cael ei chanmol am ei gwaith yn chwalu rhwystrau i bobl gael mynediad i'r proffesiwn. Yn 2024, etholwyd Lucy i rôl Is-lywydd AAT. Yn 2022, enillodd llyfr Lucy, Forget the First Million y Llyfr Busnes Byr Gorau yn y Gwobrau Llyfrau Busnes. Yr un flwyddyn, dyfarnwyd iddi Wobr Cyn-lywyddion AAT am ei gwaith ym maes iechyd meddwl yn y proffesiwn cyfrifyddu.
Yn 2021, anrhydeddwyd Lucy gyda'r Wobr Cyfraniad Eithriadol yn y Gwobrau Rhagoriaeth Cyfrifeg am ei gwaith i hybu llesiant yn y proffesiwn. Mae Lucy'n angerddol iawn am symudedd cymdeithasol a chydraddoldeb rhywedd. Yn 2020 arweiniodd ymgyrch gyhoeddus i wella'r ddarpariaeth lleddfu poen mewn triniaethau meddygol i fenywod; ymgyrch a arweiniodd at newid polisi ac a drafodwyd yn helaeth yn y wasg genedlaethol.