Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg enillwyr 2022

Ym mis Mai 2020, penderfynodd peirianwyr a myfyrwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ganolbwyntio eu harbenigedd ar ddatblygu system cymorth anadlol jet argraffedig 3D hynod effeithlon wedi’i seilio ar Venturi i helpu'r GIG yn ystod yr argyfwng COVID-19 cychwynnol.

Y prif amcan oedd datblygu dyfais y gellid ei gweithgynhyrchu'n rhad, yn gyflym ac, a oedd ar yr un pryd, yn hawdd ei defnyddio gan gynnal lefelau perfformiad uchel. Cafodd y ddyfais ei hoptimeiddio i allu cyflawni swyddogaethau CPAP fel cynnal pwysau PEEP mewn senarios fel ysbytai wedi'u gorlethu lle'r oedd y cyflenwad ocsigen yn gyfyngedig. Canfuwyd bod dyfeisiau CPAP safonol yn aneffeithlon iawn, ac y gallai eu dyfais yn hytrach weithredu gan ddefnyddio traean o'r ocsigen. Mae hefyd yn anghyffredin iawn i ddyfeisiau Venturi allu cynnal pwysedd positif yn hyderus yn llwybrau anadlu'r claf wrth gyflenwi cymysgeddau nwy cywir. Cafodd hyn ei gyflawni drwy nifer o gamau ailadroddol rhwng y gwaith modelu a phrofi.

Yna gofynnodd Peiriannydd Meddygol Arweiniol yn Nepal a oedd wedi darllen y newyddion am y Venturi a allent rannu eu ffeiliau 3D i'w hargraffu yn ei ysbyty yn Pokhara lle'r oedd sefyllfa COVID-19 yn gwaethygu bob munud.

Ymatebodd y tîm yn gyflym gan drefnu cytundeb trwydded ac yna trosglwyddodd yr holl ddogfennau/ffeiliau technegol iddynt. Yn ogystal, gwnaeth y tîm roi cymorth i’r peirianwyr yn Nepal gydag unrhyw ymholiadau oedd ganddynt. Cafodd y ddyfais ei gweithgynhyrchu'n llwyddiannus gydag argraffwyr 3D bwrdd gwaith cost isel a'i fabwysiadu i achub bywydau.