Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Rhyngwladol enillydd 2019

O Sir Gaerfyrddin, fel myfyriwr is-raddedig, astudiodd Liam yng Ngholeg Yale-NUS (Singapôr) a Phrifysgol Yale (USA), gan raddio mewn Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg. Mae Liam wedi gweithio hefyd yn y diwydiant rheoli buddsoddiadau gyda'r BW Group a Goldman Sachs, ac wedi byw mewn chwe gwlad ar draws tri cyfandir.

Ers dychwelyd i Gymru yn 2017, mae Liam wedi parhau fel Cyfarwyddwr E-Qual Education, cwmni a sefydlodd ar y cyd yn 2011 ac sydd bellach yn cyflogi dros 100 o bobl yng Nghymru. Mae Liam yn gyfrifol am ddatblygu E-Qual ymhellach, ledled Cymru ac yn rhyngwladol.

Mae Liam yn gefnogwr brŵd Rhwydwaith Seren (menter arloesol Llywodraeth Cymru i helpu disgyblion gael lle yn y prifysgolion gorau), ac mae'n fentor i fyfyrwyr ac yn arwain ysgolion i ddysgu mwy am gyfleoedd rhyngwladol. Mae Liam hefyd yn aelod o Yale's Alumni Schools Committee (ASC), sy'n cyfweld ar gyfer swyddfa derbyniadau israddedigion y brifysgol.

Yn 2018, dechreuodd a sefydlodd Liam bartneriaeth rhwng Rhwydwaith Seren a'r rhaglen Yale Young Global Scholars (YYGS) ym Mhrifysgol Yale. Yn ystod haf y llynedd, cafodd 16 o fyfyrwyr Seren ysgoloriaeth lawn i fynd i YYGS. Cafodd Liam ysgoloriaeth arall gan ei gwmni ac eraill i dalu yn llawn am holl deithiau awyren myfyrwyr Seren.

Mae partneriaeth Seren-YYGS i ddyblu mewn maint bron iawn yn ystod 2019. Mae'r llwyddiant hwn wedi cyfrannu hefyd at ddatblygiad partneriaethau ychwanegol rhwng Llywodraeth Cymru a sefydliadau rhyngwladol gan gynnwys Rhaglen Global Teaching Labs (GTL) y Massachusetts Institute of Technology, y mae Liam yn ei oruchwylio i ddod â rhagor o gyfleoedd o safon uchel i ddisgyblion yng Nghymru.